Cyfeirnod y Swydd: FACW00107W3HRE
Lleoliad: Canolfan y Dderwen, Y Rhyl
Cyflog: Graddfa 3 £18,887- £19,650 y flwyddyn pro rata (dyfarniad cyflog 2022 i ddod)
Oriau: 2 x 37 awr yr wythnos, 1 x 20 awr yr wythnos, 2 x 37 awr yr wythnos (Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer
y ddwy swydd yma)
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk Am ddulliau eraill o wneud cais, cysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706100.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ein ffurflen gais i gael ei ystyried.
Oherwydd bod estyniad cyffrous yn cael ei adeiladu ar Feithrinfa Little Acorns yn y Ganolfan Integredig Plant yn y Rhyl, gyda dwy ystafell gofal plant ychwanegol yn cynnwys Cylch Meithrin newydd, mae nifer o swyddi gweigion wedi codi yn y Tîm Datblygu Gofal Plant. Mae Little Acorns yn ddarpariaeth gofal plant perfformiad uchel ac rydym yn chwilio am ymgeiswyr a fydd yn gallu cefnogi datblygiad pellach y gwasanaeth rhagorol hwn.
Bydd yr ymgeiswyr delfrydol yn frwd am ddarpariaeth blynyddoedd cynnar, yn gallu defnyddio eu menter eu hunain, yn flaengar ac yn arloesol.
Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu gweithio mewn amgylchedd sy’n ymfalchïo mewn gwella cyfleoedd addysg a chwarae cyn-ysgol a chynnig darpariaeth o ansawdd uchel i bob plentyn yn ein gofal.
Bydd y penodiad yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a geirdaon boddhaol.
Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swydd, ffoniwch Gemma Jones ar 01824 706905.
To contact the employer, use the following e-mail address: [javascript protected email address]