Cyfeirnod y swydd: AHOS00020W3LWE
Lleoliad: Y Rhyl
Cyflog: Gradd 9, £8,914 – £9,783 y flwyddyn (yn amodol ar werthusiad swydd)
Oriau: 9 yr wythnos
Contract: Cyfnod Penodol tan 31 Mawrth 2024
Mae cyfle cyffrous ar gyfer Therapydd Galwedigaethol sydd â diddordeb arbennig mewn gofal unigol, i fod yn rhan o Brosiect Symud Gydag Urddas Sir Ddinbych.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus angen gwybodaeth dda o symud a thrin ochr yn ochr dinasyddion a’u gofalwyr, gan ddarparu hyfforddiant ac adeiladu hyder yn ystod y camau cynnar o ddefnyddio eitemau cyfarpar newydd symud a thrin.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio dan gyfarwyddyd y Therapydd Galwedigaethol sydd yn gyfrifol am Brosiect Symud Gydag Urddas Sir Ddinbych a disgwylir iddynt weithio gyda dinasyddion a’u gofalwyr dynodedig yng nghartref y dinesydd yn ystod galwadau gofal i ddarparu cymorth a hyfforddiant angenrheidiol i ymgorffori newid mewn cyfarparu neu dechneg symud a thrin.
Mae cymhwyster Proffesiynol mewn Therapi Galwedigaethol a chofrestriad HCPC yn hanfodol.
Mae penodiad yn amodol ar wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a geirdaon boddhaol.
Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swydd hon, ffoniwch Sara Thelwell neu Karen Studley ar 0300 456 1000.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk Am ddulliau eraill o wneud cais, cysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706100.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ein ffurflen gais i gael eu hystyried. Mae’n ddrwg gennym nad ydym yn gallu ateb pob cais. Os nad ydych wedi derbyn ateb o fewn tair wythnos i’r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad.
To contact the employer, use the following e-mail address: [javascript protected email address]