fbpx
Skip to main content
Therapydd Galwedigaethol Denbighshire County Council
Location: Denbighshire
Full Time

Cyfeirnod y swydd: CAPA00001W3LDE
Lleoliad: Ledled y Sir
Cyflog: Gradd 8 – 9, £32,020 – £38,296
Oriau: 37 y wythnos
Contract: Parhaol

Mae’r Tîm Annibyniaeth yn y Cartref yn dymuno penodi unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant ar gyfer swydd Therapydd Galwedigaethol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio yn y Tîm Annibyniaeth yn y Cartref, ac yn ymgymryd ag asesiadau cymesur ac yn nodi technegau, offer ac addasiadau i alluogi unigolion i gyflawni canlyniadau realistig a dymunol mewn gweithgareddau bob dydd gan ganolbwyntio ar Berfformiad Galwedigaethol yng nghyd-destun gofal cymdeithasol.

Mae cymhwyster Proffesiynol mewn Therapi Galwedigaethol a chofrestriad HCPC yn ofynnol.

Fel cyflogwr sy’n canolbwyntio ar bobl gallwn gynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu i chi, polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd, gostyngiadau a buddion, yn ogystal â gyrfa wirioneddol werth chweil gyda ni.

Penodiad yn amodol ar Wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a geirdaon boddhaol.

Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swydd, ffoniwch Julie Bamber ar 01824 708366.

Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk Am ddulliau eraill o wneud cais, cysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706100.

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ein ffurflen gais i gael ei ystyried. Mae’n ddrwg gennym nad ydym yn gallu ateb pob cais. Os nad ydych wedi derbyn ateb o fewn tair wythnos i’r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad.


To contact the employer, use the following e-mail address: [javascript protected email address]