Cyfeirnod y swydd: CSCW00129W3FDE
Lleoliad: Nant y Mor, Prestatyn
Cyflog: Gradd 4, £10.19 to £10.81 yr awr
Oriau: 28 oriau dydd/nos
Contract: Parhaol
Ydych chi’n mwynhau cynorthwyo eraill a helpu pobl i gael yr ansawdd bywyd gorau posibl? Os ydych chi, fe allai’r swydd hon fod yn berffaith i chi!
Fe yr awgryma’r enw, mae’r tîm Annibyniaeth yn y Cartref yn canolbwyntio ar gefnogi dinasyddion i fod mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain.
Rydym yn dymuno penodi Gweithiwr Cefnogi Annibyniaeth yn y Cartref i ymuno â’n tîm ymroddedig o weithwyr gofalu a chefnogi sy’n gweithio yn Sir Ddinbych.
Yn rhinwedd y swydd hon ac fel aelod o dîm Ardal, byddwch yn gweithio gyda dinasyddion i gyflawni eu canlyniadau cytunedig. Gallai’r gefnogaeth hon gynnwys darparu gofal personol.
Wrth gydnabod gwerth gofal o ansawdd uchel a gweithwyr cefnogi, rydym yn cynnig cyfraddau cyflog cystadleuol, rhaglen gynefino lawn, ad-daliad am ffi cofrestru yn ogystal â hyfforddiant ardderchog a chyfleoedd i ddatblygu gyrfaoedd.
Penodir yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, geirdaon boddhaol a chofrestriad gyda Chyngor Gofal Cymru.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ein ffurflen gais i gael ei ystyried.