Cyfeirnod y swydd: AHSS00020W3LWE
Lleoliad: Cartref Preswyl Cysgod y Gaer, Corwen
Cyflog: Grâdd 2, £10,968 y flwyddyn
Oriau: 19.50 yr wythnos
Parhaol
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Domestig brwdfrydig i ymuno â’n Tîm Cartref Gofal yng Nghartref Preswyl Cysgod y Gaer, Corwen. Nod Cartref Preswyl Cysgod y Gaer yw darparu gofal preswyl a seibiant o ansawdd uchel a gaiff ei arwain gan anghenion i gefnogi pobl hŷn ardal Corwen a’u gofalwyr.
Byddwch yn gyfrifol am gadw’r Cartref Gofal yn lân ac yn lanwaith, gan sicrhau bod pob ardal yn ddiogel ar gyfer staff a phreswylwyr.
Byddwch yn gweithio gydag oedolion diamddiffyn o fewn lleoliad gofal, ac felly bydd arnom ni angen tystysgrif uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Byddwn yn darparu hyfforddiant llawn a chefnogaeth barhaus yn ogystal â PPE llawn.
Penodiad yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a geirdāon boddhāol.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’r swydd, ffoniwch Miss. Catherine Roberts ar 01490 412394.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wāg hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk Am ddulliau eraill o wneud cais, cysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706100.
Mae’n rhaid i CVs fod ynghlwm â ffurflen gais swyddogol Cyngor Sir Ddinbych. Mae’n ddrwg gennym nad ydym yn gallu ateb pob cais. Os nad ydych wedi derbyn ateb o fewn tair wythnos i’r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad.