Location: Penygroes
Mae’n hanfodol eich bod yn gwneud cais am y swydd yma ar wefan Cyngor Gwynedd.
Pwrpas y swydd yw i sicrhau fod lles corfforol ac emosiynol y defnyddwyr yn cael eu cwrdd drwy weithredu Cynllun y Defnyddiwr unigol. Sicrhau y cedwir amgylchedd cyfforddus a glan yn y cartref. Gwneir hyn i gyd drwy ddilyn canllawiau a pholisiau y Cyngor.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod i weithio fel aelod o dim i sicrhau awyrgylch mor gartrefol a phosib i’r trigolion. Y prif ddyletswyddau fydd sicrhau bod y Cartref yn lan a chynorthwyo gyda thasgau gofal yn y Cartref.
Dylai deilydd y swydd feddu ar natur gyfrifol ac aeddfed. Disgwylir i’r person fod ag agwedd sensitif tuag at anghenion y trigolion ac yn parchu eu preifatrwydd.