Location: Ffestiniog
Mae’n hanfodol i wneud cais drwy wefan Cyngor Gwynedd.
Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod i weithio drwy’r nos i sicrhau awyrgylch mor gartrefol â phosib i’r trigolion. Y prif ddyletswyddau fydd sicrhau bod y Cartref yn lan, cynnes a chyfforddus, ac i ofalu am les gorfforol ac emosiynol y trigolion.
Dylai deilydd y swydd feddu ar natur gyfrifol ac aeddfed. Disgwylir i’r person fod ag agwedd sensitif tuag at anghenion y trigolion ac yn parchu eu preifatrwydd. Bydd profiad a chymhwyster ym maes gofal yn fanteisiol.