Cyfeirnod y swydd: AHSS00021W3LWE
Lleoliad: Gowel Newydd, Y Rhyl
Cyflog: Gradd 4 – £6,997 – £7,387 y flwyddyn
Oriau: 12 awr yr wythnos (nosweithiau)
Parhaol
Rydym yn chwilio am unigolyn tosturiol i ymuno â’n tîm cyfeillgar i weithio fel Cymhorthydd Gofal a Chefnogaeth yn ein huned gofal ychwanegol fodern yn Y Rhyl.
Mae’r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i’n tenantiaid o’r safon uchaf ac rydym yn cydnabod bod hyn oherwydd ein staff gwerthfawr. Rydym yn annog ein holl staff i gynnig syniadau ar sut i wella a gweithredu ar y syniadau hyn.
Fel cyflogwr sy’n canolbwyntio ar bobl, rydym yn cynnig cyfleoedd i hyfforddi a datblygu, polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd, gostyngiadau a buddion yn ogystal â gyrfa hynod werthfawr gyda ni.
Penodiad yn amodol ar Wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a geirdaon boddhaol a chofrestriad gyda Chyngor Gofal Cymru.
Os hoffech chi drafod unrhyw agwedd ar y swydd, ffoniwch Julie Bamber ar 01824 708366 neu Rob Gilmour on 01824 708315.
Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd wag hon, gwnewch gais ar-lein trwy ein gwefan www.sirddinbych.gov.uk Am ddulliau eraill o wneud cais, cysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706100.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau ein ffurflen gais i gael ei ystyried. Mae’n ddrwg gennym nad ydym yn gallu ateb pob cais. Os nad ydych wedi derbyn ateb o fewn tair wythnos i’r dyddiad cau, dylech gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad.
To contact the employer, use the following e-mail address: [javascript protected email address]