Temporary Team Leader
Employer
Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Location
-
Wrexham
- All areas
Job details
- Contract hours
- Full Time
- Contract type
- Temporary
- Pay
- £39,481-£42,123 per year
- Area of care
- Social Care
Job description
About the Role
- Arweinydd Tîm Dros Dro
Gwasanaeth Byw yn y Gymuned (CLS)
Swydd Dros DroYdych chi'n angerddol am gefnogi oedolion ag anableddau dysgu i fyw bywydau ystyrlon a boddhaus? Oes gennych chi'r sgiliau, y gwerthoedd a'r cymhelliant i arwain drwy esiampl a chefnogi tîm i ddarparu gwasanaeth o safon uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn?
Rydym yn chwilio am Arweinydd Tîm Dros Dro brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n Gwasanaeth Byw yn y Gymuned. Mae hwn yn gyfle gwych i rywun sydd yn barod i gymryd y cam nesaf yn ei yrfa neu i ddatblygu ei sgiliau arwain ymhellach ym maes gofal cymdeithasol oedolion.
Y Rôl
Fel Arweinydd Tîm, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r Rheolwr Cofrestredig a'r tîm rheoli ehangach i sicrhau bod y gwasanaeth yn darparu cymorth diogel, effeithiol ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddwch yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth ddyddiol i dimau staff, hyrwyddo arfer da a sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig iddynt.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Arwain a chefnogi timau staff i ddarparu gofal a chymorth o safon uchel.
- Hyrwyddo dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, seiliedig ar gryfderau a Chymorth Gweithredol.
- Cefnogi unigolion i gyflawni mwy o annibyniaeth, dewis a rheolaeth dros eu bywydau.
- Monitro a chynnal safonau uchel o ran ymarfer, diogelu, iechyd a diogelwch.
- Cynnal goruchwyliaethau, arsylwadau a chefnogi datblygiad staff.
- Cynorthwyo gyda rheoli rotâu, materion staffio a darparu'r gwasanaeth.
- Gweithio'n agos gyda theuluoedd, gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau allanol.
- Cefnogi gweithrediad cynlluniau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a strategaethau rheoli risg lle bo angen.
- Bod yn fodel rôl ar gyfer gwerthoedd, ymddygiadau ac arferion proffesiynol.
Amdanoch Chi
Rydym yn chwilio am rywun sydd:
- â phrofiad o gefnogi oedolion ag anableddau dysgu a/neu anghenion cymhleth.
- wedi ymrwymo i ddarparu cymorth person-ganolog rhagorol.
- â sgiliau cyfathrebu ac arwain rhagorol.
- yn gallu ysgogi a chefnogi eraill i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
- yn deall ei gyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu a gofynion rheoleiddiol.
- yn gallu gweithio'n hyblyg i ddiwallu anghenion y gwasanaeth.
- â phrofiad o oruchwylio neu arwain staff, neu sy'n gallu dangos potensial arwain cryf.
Beth Rydym yn Ei Gynnig
- Tîm rheoli cefnogol.
- Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau arwain ac ennill profiad rheoli.
- Mynediad at hyfforddiant a chyfleoedd datblygu.
- Y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau'r bobl rydym yn eu cefnogi.
Yn y Gwasanaeth Byw yn y Gymuned, rydym yn credu y dylai pobl gael yr un cyfleoedd â phawb arall i fyw bywydau gweithgar, ystyrlon a bod yn aelodau gwerthfawr o'u cymunedau. Rydym yn chwilio am arweinwyr sy'n rhannu'r gwerthoedd hyn ac sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo urddas, parch, dewis ac annibyniaeth.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd, cysylltwch â'r Rheolwr Cofrestredig.
About Us
Mae Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi'i lleoli yng ngogledd ddwyrain Cymru ac mae'n falch o'i threftadaeth Gymreig a'i hunaniaeth ddiwylliannol. Dros y blynyddoedd mae wedi tyfu i adlewyrchu poblogaeth sy'n aml-grefyddol ac aml-ethnig gan adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.
Wedi'i chanoli ar ddinas Wrecsam, sy'n swatio rhwng mynyddoedd Cymru a gwastadeddau Swydd Gaer, mae'n lleoliad sy'n gallu cynnig y gorau o'r ddau fyd i chi ac rydym yn falch o'n statws dinas (a ddyfarnwyd yn 2022 pan roddwyd i ni'r statws hwn, y seithfed ddinas yng Nghymru i'w gael).
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn Gyngor unedol sy'n darparu ystod eang o wasanaethau gyda'r nod o wella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau trwy gydweithio â phartneriaid lleol a chenedlaethol. Gyda ffocws ar ddatblygu cynaliadwy, lles cymunedol, a gwella bywydau trigolion Wrecsam a'r cymunedau cyfagos, mae Wrecsam yn lle gwych i weithio, byw a dysgu.
Mae'r cyngor yn gyflogwr cynhwysol gyda gweithlu o tua 5,500, sy'n cynnig rolau amrywiol, hyfforddiant a datblygiad a chyfleoedd gyrfa gwerth chweil. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gwerthfawrogi arloesedd, dwyieithrwydd yn Gymraeg a Saesneg, ac yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir.
Fel Cyflogwr Hyderus ac Ymroddedig o ran Anabledd, mae'r cyngor yn sicrhau recriwtio a chefnogaeth hygyrch i weithwyr anabl gan gynnwys cynnig cyfweliad gwarantedig (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol). Yn ogystal, bydd cyn-filwyr yn derbyn cyfweliadau gwarantedig o dan Gyfamod y Lluoedd Arfog os bodlonir meini prawf cymhwysedd (lle bodlonir eitemau manyleb person hanfodol).
Mae buddion cyflogeion yn cynnwys:
- Aelodaeth o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Gwyliau blynyddol hael hyd at 32 diwrnod
- Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd sy'n cefnogi ymrwymiadau gofalu a theuluol
- Cydbwysedd bywyd gwaith ac amser hyblyg (yn dibynnu ar rôl)
- Aelodaeth hamdden gostyngol
- Mynediad at Gynllun Gwobrwyo Wrecsam gyda gostyngiadau oddi ar fanwerthwyr blaenllaw yn genedlaethol ac yn lleol
- Amrywiaeth o adnoddau iechyd a lles, er enghraifft:
- Hyrwyddwyr Iechyd a Lles
- Mynediad at raglen cymorth cyflogeion gyda cyngor ar gadw'n iach boed yn ariannol, yn feddyliol neu'n gorfforol:
- Cwnsela (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
- Cymorth emosiynol yn y fan a'r lle (ar gael 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn)
- Opsiwn i osod nodau hybu iechyd gyda newidiadau bach o fyw cynaliadwy
- Cysylltu apiau iechyd i olrhain iechyd corfforol yn awtomatig a chyflawni nodau cynnydd
- Blogiau, fideos, ryseitiau a mwy o adnoddau sy'n darparu ysbrydoliaeth a chymhelliant
- Nodi'r risg o ddatblygu clefydau blaenllaw sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw ynghyd â sgoriau iechyd meddwl ac ariannol
- Cyngor cyfreithiol, ariannol a defnyddwyr
- Digwyddiadau ac ymgyrchoedd iechyd a lles drwy gydol y flwyddyn (e.e. Diwrnod Iechyd Tachwedd, Diwrnod Amser i Siarad, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Wythnos Ymwybyddiaeth o'r Haul, Wythnos y Menopos, Wythnos Iechyd Ariannol)
- Caffi Menopos ac arweiniad
- Caffi Gofalwyr Di-dâl a chanllawiau
Mae ein Cynllun Cyngor (2023–28) yn nodi ein blaenoriaethau ac rydym yn cyflawni'r rhain trwy ddilyn Gwerthoedd Nolan bywyd cyhoeddus (anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, agoredrwydd, gonestrwydd ac arweinyddiaeth) yn ogystal â'n Gwerthoedd Corfforaethol ein hunain:
- Grymuso
- Ymddiriedaeth a gonestrwydd
- Dyhead
- Cydweithredu
- Gwneud gwahaniaeth
- Tegwch
How to apply
View full job description and apply on the employers website
Apply online